Divine Chocolate Poetry Competition winners
Cystadleuaeth Divine 2017
Y cerddi buddugol!
Llogyfarchiadau mawr i'r holl enillwyr.
Adran Cynradd
1af - Rhiannon Kennedy, Ysgol Edern
Rhannu Blas Divine
Mae Siocled yn dod a dŵr i geg,
Ond ydy ffermwyr coco yn cael prisiau teg?
Plant heb fwyd a dillad sydd
Yn cael trafferth byw o ddydd i ddydd.
Mae rhannu yn holl bwysig,
Ond weithiau ddim yn hawdd,
Heb feddwl am annhegwch,
Rydym yn llowcio siocled drwy’r prynhawn.
Sut allwn ni helpu datrys y sefyllfa
Mewn gwlad fach fel Cymru?
Rydym ni angen arwr am gyfiawnder a thegwch,
A meddwl am beth rydym yn ei brynu!
Allan o’r duwch, i achub y byd;
Daw Masnach deg,
I ddod â siocled hyfryd i’r byd,
A chael prisiau teg!
2ail - Jack Rees Davies, Ysgol Edern
Rhannu Blas Divine
Siocled, siocled, siocled
Rwyf wrth fy modd gyda siocled
Oherwydd pan roedd
Mam yn awgrymu y cawn nôl
Siocled i’r siop
Roeddwn fel mellten o’r
Drws, siocled, siocled buaswn yn
Hoffi cael bath mewn siocled
Melys ac esmwyth ac rwyf yn
Hoffi rhannu siocled.
Mae rhannu’n
Deg yn bwysigion er mwyn i’r
Ffermwyr yn Ghana gael
Bywyd llawn.
3ydd - Gruff Byrne, Ysgol Nantgaredig
Rhannu Blas Divine
Meddal, moethus, melys
Siocled hyfryd Divine
Rhannu, gwenu, bwyta
Mwy o siocled Divine.
Rhannu gyda ffrindiau
Rhannu gyda’r teulu
Siocled hyfryd Divine
Chwalu, taflu, llowcio
Mwy o siocled Divine
Brown, gwyn, aur
Meddal, sidanaidd, llyfn
Siocled hyfryd divine.
Blasus, dymunol, danteithiol
Mwy o siocled Divine!
Adran Uwchradd
1af - Niamh Crawford, Ysgol Gwynllyw
Rhannu Blas Divine
Draw draw ymhell,
Sycha’r ffermwr ei chwys.
Draw draw yn Ghana,
Mae yna weithio ar frys.
Mae’r podiau yn hollti,
A’r ffa fel gemau drud.
A’r fasnach yn deg,
Wrth roi siocled i’r byd.
Mae gwen ar wynebau,
Y gweithwyr bob un.
Divine yw'r cynnyrch,
Sy'n roi tegwch i ddyn.
2ail - Megan Bryer a Leusa Bowen, Ysgol Bro Myrddin
Rhannu Blas Divine
Tra bo' ni’n blasu siocled,
Maen nhw’n blasu rhyddid.
I ni mae’n faryn o siocled,
I nhw mae’n fywyd newydd.
Tra bo' ni’n taflu sbwriel,
Maen nhw’n taflu hadau.
I ni mae addysg yn normal
I nhw mae addysg yn ddymuniad.
Tra bo' ni’n derbyn miliynau,
Maen nhw’n derbyn ceiniogau.
I ni mae rhannu’n hunllef,
I nhw dyna’i unig obaith.
Tra bo' ni’n stwffio’n cegau,
Maen nhw’n colli pwysau.
I ni mae ffermio’n ddiddordeb,
I nhw dyna’r unig ffordd i oroesi.
Felly pan ewch chi’n siopa nesa’,
Prynwch Divine er mwyn helpu pobl Ghana.
3ydd - Betsan Campbell a Carina Sidhu, Ysgol Bro Myrddin
Rhannu Blas Divine
Rhannu blas meddal y siocled moethus,
Yn toddi yn fy ngheg fel iâ,
Yr arogl yn gwneud i mi deimlo’n gampus,
A’r atgof fel ddiwrnod o ha’.
Mwynhau ei fwyta gyda’r teulu i gyd,
Ei weld yn eistedd yn amyneddgar,
Rwy’n ysu i’w fwyta o hyd ac o hyd,
A’i rhannu gyda phawb yn Sir Gâr.
Mae hyd yn oed y teimlad yn felys,
Ac yn gwneud i mi fownsio’n fywiog,
Y paced yn lliwgar fel yr enfys,
Ond ar ôl bwyta gormod rwy’n ddiog.
O’r diwedd mae’n amser i’w hagor,
Ac mae’r synau yn troi’n bur,
Rwy’n gofyn i mam am ragor,
Ond fyddai rhaid i mi aros am hir.
Bob tro rwy’n ei fwyta rwy’n cofio,
Am y bobl sy’n gweithio’n galed,
Ond allwn ni fyth anghofio,
Maen nhw yw’r wir swper Ted!